2014 Rhif 2709 (Cy. 270)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Pwyllgorau Rheoli etc.) (Cymru) 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn, a ddaw i rym ar 31 Hydref 2014, yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol sefydlu pwyllgorau rheoli i redeg unedau cyfeirio disgyblion (UCDau) yn eu hardal, ac yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyfansoddiad a gweithdrefnau pwyllgorau o’r fath.

Mae Rhan 2 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol sefydlu pwyllgor mewn perthynas â phob UCD yn ei ardal, gyda’r amod y caiff pwyllgor redeg mwy nag un UCD. O ran yr UCDau a agorir cyn 31 Hydref 2014, rhaid sefydlu pwyllgor erbyn 23 Chwefror 2015. O ran yr UCDau a agorir ar neu ar ôl 31 Hydref 2014, rhaid sefydlu pwyllgor (neu rhaid gwneud trefniadau i bwyllgor presennol reoli’r UCD) heb fod yn hwyrach na’r diwrnod cyntaf y mae ar agor i ddisgyblion (rheoliadau 3 a 4). Rhaid i’r awdurdod lleol wneud offeryn llywodraethu mewn cysylltiad â phob uned (neu grŵp o unedau) a phenodi’r aelodau cyntaf (ac eithrio’r rheini y mae’n ofynnol iddynt gael eu hethol) (rheoliad 5).

Mae Rhan 3 yn rhagnodi’r categorïau o aelodau. Mae Rhan 4 yn rhagnodi cyfansoddiad y pwyllgorau. Mae Rhan 5 yn rhagnodi cymhwyster a deiliadaeth swydd aelodau.

Mae Rhan 6 yn gwneud darpariaeth ar gyfer gweithdrefnau pwyllgorau drwy gymhwyso Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005 i bwyllgorau, gydag addasiadau penodol (rheoliad 21 ac Atodlen 3).

Mae rheoliadau 22 a 23 yn Rhan 7, a ddaw i rym ar 23 Chwefror 2015, yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddirprwyo swyddogaethau penodol, yn bennaf y swyddogaeth o gynnal yr uned, i’r pwyllgor ac yn ei gwneud yn ofynnol i ddatganiad polisi ysgrifenedig mewn perthynas â’r cwricwlwm ar gyfer yr uned gael ei wneud a’i adolygu o bryd i’w gilydd.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Cymorth i Ddysgwyr, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ. 

 

 

 

 

 


2014 Rhif 2709 (Cy. 270)

addysg, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Pwyllgorau Rheoli etc.) (Cymru) 2014

Gwnaed                                  7 Hydref 2014

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       9 Hydref 2014

Yn dod i rym ar 31 Hydref 2014, ac eithrio rheoliadau 22 a 23 sy’n dod i rym ar 23 Chwefror 2015         

 

CYNNWYS

RHAN 1

CYFFREDINOL

1.       Enwi, cychwyn a chymhwyso

2.       Dehongli

RHAN 2

SEFYDLU PWYLLGORAU RHEOLI

3.       Sefydlu pwyllgorau

4.       Cyd-bwyllgorau

5.       Dyletswydd i wneud offeryn llywodraethu a phenodi’r aelodau cyntaf

6.       Cynnwys yr offeryn llywodraethu

7.       Adolygu’r offeryn llywodraethu

8.       Gofynion eraill mewn perthynas ag offerynnau llywodraethu

 

RHAN 3

CATEGORÏAU O AELODAU

9.       Rhiant-aelodau

10.     Staff-aelodau

11.     Aelodau a benodir gan yr awdurdod

12.     Aelodau cymunedol

13.     Noddwr-aelodau

RHAN 4

CYFANSODDIAD Y PWYLLGORAU

14.     Egwyddorion cyffredinol

15.     Hysbysu ynghylch penodiadau

RHAN 5

CYMHWYSTER A DEILIADAETH SWYDD AELODAU

16.     Cymhwyso ac anghymhwyso

17.     Tymor y swydd

18.     Ymddiswyddo

19.     Symud aelodau o’u swyddi

20.     Y weithdrefn ar gyfer symud aelodau o’u swyddi gan y pwyllgor

RHAN 6

GWEITHDREFNAU’R PWYLLGORAU

21.     Cymhwyso Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005

RHAN 7

DIRPRWYO SWYDDOGAETHAU I BWYLLGORAU A’R CWRICWLWM

22.     Dirprwyo swyddogaethau

23.     Cwricwlwm

 

ATODLEN 1 — Ethol a phenodi aelodau

ATODLEN 2 — Cymhwyso ac anghymhwyso

 

ATODLEN 3 — Cymhwyso, gydag addasiadau, Ran 7, 8, 9 a 10 o Reoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005

 


Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996([1]) a pharagraffau 3, 6(2) a 15 o Atodlen 1 iddi:

RHAN 1

CYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Pwyllgorau Rheoli etc.) (Cymru) 2014.

(2) Daw’r Rheoliadau hyn, ac eithrio rheoliadau 22 a 23, i rym ar 31 Hydref 2014.

(3) Daw rheoliadau 22 a 23 i rym ar 23 Chwefror 2015.

(4) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2. Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “aelod” (“member”) yw aelod o bwyllgor a benodir neu a etholir yn unol â’r Rheoliadau hyn;

ystyr “awdurdod” (“authority”), mewn perthynas ag uned, yw’r awdurdod lleol y cynhelir yr uned ganddo;

ystyr “clerc y pwyllgor” (“clerk to the committee”) yw clerc a benodir i bwyllgor yn unol â Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005([2]);

ystyr “cynrychiolydd ysgol” (“school representative”) yw person sy’n llywodraethwr neu’n aelod o staff ysgol a gynhelir yn y gymuned a wasanaethir gan yr uned (neu, yn ôl y digwydd, y grŵp o unedau);

ystyr “grŵp o unedau” (“group of units”) yw dwy neu ragor o unedau a reolir gan yr un pwyllgor yn unol â rheoliad 4;

ystyr “offeryn llywodraethu” (“instrument of government”) yw offeryn llywodraethu uned, neu grŵp o unedau, a wneir yn unol â’r Rheoliadau hyn;

ystyr “pwyllgor” (“committee”) yw pwyllgor rheoli uned, neu grŵp o unedau, a sefydlir o dan y Rheoliadau hyn; ac

ystyr “uned” (“unit”) yw uned cyfeirio disgyblion.

RHAN 2

SEFYDLU PWYLLGORAU RHEOLI

Sefydlu pwyllgorau

3. Yn ddarostyngedig i reoliad 4, rhaid i awdurdod sefydlu pwyllgor i weithredu fel pwyllgor rheoli pob uned a gynhelir ganddo—

(a)     mewn perthynas ag uned a agorir cyn 31 Hydref 2014, erbyn 23 Chwefror 2015; a

(b)     mewn perthynas ag uned a agorir ar neu ar ôl 31 Hydref 2014, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, a beth bynnag heb fod yn hwyrach na’r diwrnod cyntaf y mae’r uned ar agor i ddisgyblion.

Cyd-bwyllgorau

4. Caiff awdurdod—

(a)     sefydlu pwyllgor i weithredu fel pwyllgor rheoli dwy neu ragor o unedau a gynhelir ganddo; neu

(b)     gwneud trefniadau i bwyllgor a sefydlir ganddo o dan reoliad 3 neu baragraff (a) weithredu fel pwyllgor rheoli uned, neu unedau, ychwanegol a gynhelir ganddo.

Dyletswydd i wneud offeryn llywodraethu a phenodi’r aelodau cyntaf

5. Rhaid i awdurdod—

(a)     gwneud offeryn llywodraethu, i benderfynu ar y cyfansoddiad a materion eraill sy’n ymwneud â’r pwyllgor, mewn cysylltiad â phob uned (neu, yn ôl y digwydd, bob grŵp o unedau) a gynhelir ganddo; a

(b)     penodi aelodau cyntaf pob pwyllgor a sefydlir ganddo o dan reoliad 3 neu 4, (ac eithrio rhiant-aelodau, a staff-aelodau y mae’n ofynnol iddynt gael eu hethol o dan reoliad 10(1)(b)).

Cynnwys yr offeryn llywodraethu

6. Rhaid i’r offeryn llywodraethu nodi—

(a)     enw’r uned (neu’r grŵp o unedau);

(b)     enw’r pwyllgor;

(c)     y modd y mae’r pwyllgor i gael ei gyfansoddi yn unol â rheoliad 14, gan bennu—

                           (i)    nifer yr aelodau ym mhob categori o aelod, a

                         (ii)    cyfanswm nifer aelodau’r pwyllgor, gan gynnwys unrhyw noddwr-aelodau;

(d)     pan fo tymor y swydd ar gyfer categori o aelod i fod yn llai na phedair blynedd, hyd tymor y swydd honno;

(e)     enw unrhyw noddwr sydd â’r hawl i enwebu personau i’w penodi yn aelodau o’r fath o dan Atodlen 1; ac

(f)      y dyddiad pan fydd yr offeryn llywodraethu yn cymryd effaith.

Adolygu’r offeryn llywodraethu

7.(1) Caiff y pwyllgor neu’r awdurdod adolygu’r offeryn llywodraethu ar unrhyw adeg ar ôl iddo gael ei wneud.

(2) Pan fo’r pwyllgor neu’r awdurdod yn penderfynu, ar ôl unrhyw adolygiad, y dylid amrywio’r offeryn llywodraethu, rhaid i’r pwyllgor neu (yn ôl y digwydd) yr awdurdod hysbysu’r llall am yr amrywiad a gynigir ganddo ynghyd â’i resymau dros gynnig amrywiad o’r fath.

(3) Pan fo’r pwyllgor wedi cael hysbysiad o dan baragraff (2), rhaid iddo hysbysu’r awdurdod pa un a yw’n fodlon ar yr amrywiad a gynigir ai peidio ac, os nad yw’n fodlon, am ba resymau.

(4) Os—

(a)     yw’r pwyllgor neu’r awdurdod, pa un bynnag sy’n cael hysbysiad o dan baragraff (2), yn cytuno â’r amrywiad a gynigir; neu

(b)     oes cytundeb rhwng yr awdurdod a’r pwyllgor y dylid gwneud rhyw amrywiad arall yn ei le, rhaid i’r awdurdod amrywio’r offeryn llywodraethu yn unol â hynny.

(5) Os nad yw paragraff (4) yn gymwys, rhaid i’r awdurdod—

(a)     hysbysu’r pwyllgor am y rhesymau—

                           (i)    pam nad yw’n fodlon ar yr amrywiad a gynigir gan y pwyllgor, neu yn ôl y digwydd,

                         (ii)    pam y mae’n dymuno bwrw ymlaen â’i amrywiad ei hun; a

(b)     rhoi cyfle rhesymol i’r pwyllgor i ddod i gytundeb ag ef mewn perthynas â’r amrywiad, a rhaid iddo amrywio’r offeryn llywodraethu naill ai yn y modd y cytunwyd arno rhyngddo ef a’r pwyllgor neu (yn absenoldeb cytundeb o’r fath) ym mha bynnag fodd y gwêl yn dda.

(6) Pan fo’r offeryn llywodraethu wedi ei amrywio o dan y rheoliad hwn, rhaid iddo nodi’r dyddiad y mae’r amrywiad yn cymryd effaith.

Gofynion eraill mewn perthynas ag offerynnau llywodraethu

8.(1) Rhaid i’r awdurdod sicrhau y darperir i’r personau a nodir ym mharagraff (2) (yn rhad ac am ddim)—

(a)     copi o’r offeryn llywodraethu; a

(b)     pan fo unrhyw amrywiad wedi ei wneud i’r offeryn llywodraethu, fersiwn wedi ei chydgrynhoi o’r offeryn llywodraethu sy’n ymgorffori pob amrywiad a wnaed gan yr awdurdod (ac eithrio amrywiadau sydd wedi peidio â chael effaith).

(2) Dyma’r personau y mae’r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1) i gael ei darparu iddynt—

(a)     pob aelod o’r pwyllgor; a

(b)     yr athro neu’r athrawes â gofal am yr uned, os nad yw’n aelod o’r pwyllgor (neu, yn achos grŵp o unedau, unrhyw athro neu athrawes â gofal nad yw’n aelod o’r pwyllgor).

RHAN 3

CATEGORÏAU O AELODAU

Rhiant-aelodau

9.(1) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “rhiant-aelod” (“parent member”) yw—

(a)     person sydd wedi ei ethol yn aelod yn unol â pharagraffau 2 i 6 o Atodlen 1 gan rieni disgyblion cofrestredig yn yr uned (neu, yn ôl y digwydd, ym mhob un o’r unedau yn y grŵp o unedau), ac sy’n rhiant i ddisgybl cofrestredig yn yr uned (neu, yn ôl y digwydd, unrhyw uned yn y grŵp o unedau) ar yr adeg pan etholir y person hwnnw; neu

(b)     person a benodir yn rhiant-aelod yn unol â pharagraffau 7 ac 8 o Atodlen 1.

(2) Mae person wedi ei anghymhwyso rhag cael ei ethol neu ei benodi yn rhiant-aelod os yw’r person hwnnw—

(a)     yn aelod etholedig o’r awdurdod; neu

(b)     wedi ei anghymhwyso o dan reoliad 10(2).

(3) Nid yw person wedi ei anghymhwyso rhag parhau i ddal swydd rhiant-aelod pan fo’r person hwnnw yn peidio â bod yn rhiant i ddisgybl cofrestredig yn yr uned (neu, yn ôl y digwydd, unrhyw uned yn y grŵp o unedau) neu’n methu â bodloni unrhyw un neu ragor o’r gofynion a nodir ym mharagraff 8 o Atodlen 1 oni bai bod y person hwnnw wedi ei anghymhwyso fel arall o dan y Rheoliadau hyn.

Staff-aelodau

10.(1) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “staff-aelod” (“staff member”) yw—

(a)     yr athro neu’r athrawes â gofal am uned (neu, yn achos grŵp o unedau, yr athro neu’r athrawes â gofal am bob un o’r unedau); neu

(b)     person sydd wedi ei ethol yn aelod yn unol â pharagraffau 9 i 11 o Atodlen 1 gan bersonau sy’n cael eu talu i weithio yn gyfan gwbl neu’n bennaf yn yr uned (neu, yn ôl y digwydd, unrhyw uned yn y grŵp o unedau) ac sy’n berson sy’n gweithio felly ar yr adeg pan etholir y person hwnnw.

(2) Nid yw person sy’n gymwys i’w ethol yn staff-aelod ac sy’n cael ei dalu i weithio yn yr uned honno am fwy na 500 awr ym mhob blwyddyn academaidd yn gymwys i’w ethol neu ei benodi yn aelod o dan reoliad 9, 11, 12 neu 13.

(3) Pan fydd staff-aelod yn peidio â gweithio yn yr uned honno, mae i’w anghymhwyso rhag parhau i ddal ei swydd fel aelod o’r fath.

Aelodau a benodir gan yr awdurdod

11.(1) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “aelod a benodir gan yr awdurdod” (“authority appointed member”) yw person sydd wedi ei benodi yn aelod gan yr awdurdod (ac eithrio staff-aelod, aelod cymunedol, neu noddwr-aelod a benodir gan yr awdurdod o dan reoliad 5(b)).

(2) Mae person wedi ei anghymhwyso rhag cael ei benodi yn aelod a benodir gan yr awdurdod os yw’r person hwnnw yn gymwys i fod yn staff-aelod.

Aelodau cymunedol

12.(1) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “aelod cymunedol” (“community member”) yw person sydd wedi ei benodi yn aelod gan y pwyllgor (neu gan yr awdurdod o dan reoliad 5(b)) ac sy’n—

(a)     cynrychiolydd ysgol;

(b)     person sy’n byw neu’n gweithio yn y gymuned a wasanaethir gan yr uned (neu, yn ôl y digwydd, y grŵp o unedau); neu

(c)     person sydd, ym marn y pwyllgor (neu, yn achos aelod cymunedol a benodir o dan reoliad 5(b), yr awdurdod), wedi ymrwymo i lywodraethu da ac i lwyddiant yr uned (neu, yn ôl y digwydd, y grŵp o unedau).

(2) Mae person wedi ei anghymhwyso rhag cael ei benodi yn aelod cymunedol os yw’r person hwnnw—

(a)     yn gymwys i fod yn staff-aelod o’r pwyllgor; neu

(b)     yn aelod etholedig o’r awdurdod.

Noddwr-aelodau

13. Yn y Rheoliadau hyn ystyr “noddwr-aelod” (“sponsor member”) yw person sydd wedi ei enwebu’n noddwr-aelod ac sydd wedi ei benodi felly gan y pwyllgor yn unol â pharagraffau 12 i 14 o Atodlen 1 (neu sydd wedi ei benodi’n noddwr-aelod gan yr awdurdod o dan reoliad 5(b)).

RHAN 4

CYFANSODDIAD Y PWYLLGORAU

Egwyddorion cyffredinol

14.(1) Mae’r offeryn llywodraethu i bennu maint ac aelodaeth y pwyllgor nad yw i fod yn llai na 7 aelod nac yn fwy nag 20 o aelodau (gan ddiystyru unrhyw noddwr-aelodau).

(2) Mae’r offeryn llywodraethu i bennu nifer yr aelodau i’w hethol neu eu penodi o bob un o’r categorïau o aelod a ganlyn—

(a)     rhiant-aelod;

(b)     staff-aelod;

(c)     aelod a benodir gan yr awdurdod;

(d)     aelod cymunedol;

(e)     noddwr-aelod.

(3) Wrth gyfrifo nifer yr aelodau sy’n ofynnol ym mhob categori yn unol â pharagraff (5), rhaid talgrynnu’r nifer i fyny neu i lawr i’r rhif cyfan agosaf.

(4) Wrth gyfrifo nifer y staff-aelodau sy’n ofynnol, rhaid cynnwys yr athro neu’r athrawes â gofal (neu, yn achos grŵp o unedau, yr athro neu’r athrawes â gofal am bob un o’r unedau) pa un a yw’r person hwnnw wedi ymddiswyddo fel aelod ai peidio.

(5) O ran cyfanswm nifer yr aelodau—

(a)     rhaid bod o leiaf un ond dim mwy na phumed ran ohono yn rhiant-aelodau;

(b)     rhaid bod o leiaf un ond dim mwy na thraean ohono yn staff-aelodau;

(c)     rhaid bod o leiaf un ond dim mwy na thraean ohono yn aelodau a benodir gan yr awdurdod;

(d)     rhaid bod o leiaf un ond dim mwy na dau yn noddwr-aelodau; ac

(e)     rhaid i nifer yr aelodau cymunedol fod yn fwy na nifer yr holl aelodau eraill a restrir yn is-baragraffau (a) i (d).

Hysbysu ynghylch penodiadau

15. Pan fo person yn gwneud penodiad neu’n enwebu person i’w benodi i’r pwyllgor rhaid i’r person hwnnw roi hysbysiad ysgrifenedig am y penodiad neu’r enwebiad i glerc y pwyllgor, gan bennu enw a phreswylfa arferol y person a benodir neu a enwebir.

RHAN 5

CYMHWYSTER A DEILIADAETH SWYDD AELODAU

Cymhwyso ac anghymhwyso

16. Mae Atodlen 2 yn nodi’r amgylchiadau pan fo person yn gymwys i ddal swydd neu barhau yn ei swydd fel aelod, neu pan fo wedi ei anghymhwyso rhag dal swydd neu barhau yn ei swydd fel aelod.

Tymor y swydd

17.(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) i (4), mae aelod i ddal swydd am gyfnod penodol o bedair blynedd o’r dyddiad y’i hetholir neu y’i penodir.

(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw staff-aelod sy’n athro neu’n athrawes â gofal am uned, a gaiff ddal y swydd cyhyd ag y bo’r person hwnnw yn parhau yn ei swydd fel yr athro neu’r athrawes â gofal.

(3) Caiff yr offeryn llywodraethu bennu tymor swydd llai ar gyfer categori penodol o aelod, ond ni chaiff y tymor fod yn llai na blwyddyn.

(4) Nid yw’r rheoliad hwn yn rhwystro aelod rhag—

(a)     cael ei ethol neu ei benodi am dymor pellach, ac eithrio fel y darperir fel arall yn y Rheoliadau hyn;

(b)     ymddiswyddo yn unol â rheoliad 18(1);

(c)     cael ei symud o’i swydd yn unol â rheoliad 19; neu

(d)     cael ei anghymhwyso, yn rhinwedd unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn, rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd.

Ymddiswyddo

18.(1) Caiff aelod ymddiswyddo ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i glerc y pwyllgor.

(2) Caiff yr athro neu’r athrawes â gofal am uned dynnu ei ymddiswyddiad neu ei hymddiswyddiad yn ôl ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i glerc y pwyllgor.

Symud aelodau o’u swyddi

19.(1) Caniateir i unrhyw aelod a benodir gan yr awdurdod gael ei symud o’i swydd gan yr awdurdod, a rhaid i’r awdurdod roi hysbysiad ysgrifenedig am hynny i glerc y pwyllgor, ac i’r aelod a symudir o’i swydd felly.

(2) Caniateir i unrhyw aelod cymunedol neu noddwr-aelod gael ei symud o’i swydd gan y pwyllgor yn unol â’r weithdrefn a nodir yn rheoliad 20.

(3) Rhaid i gorff enwebu sy’n cynnig symud aelod cymunedol neu noddwr-aelod o’i swydd hysbysu clerc y pwyllgor, a’r aelod o dan sylw, yn ysgrifenedig am ei resymau dros gynnig bod yr aelod hwnnw yn cael ei symud o’i swydd.

(4) Caiff y pwyllgor, yn unol â’r weithdrefn a nodir yn rheoliad 20, symud unrhyw aelod cymunedol, neu unrhyw noddwr-aelod, o’i swydd yn dilyn cais gan y corff enwebu.

(5) Yn y rheoliad hwn, ystyr “corff enwebu” (“nominating body”) yw unrhyw berson y ceisiwyd enwebiadau ganddo at y diben o benodi’r aelod o dan sylw, ac a enwebodd yr aelod o dan sylw.

(6) Caniateir i unrhyw riant-aelod a benodir gan y pwyllgor o dan baragraffau 7 ac 8 o Atodlen 1 gael ei symud o’i swydd gan y pwyllgor yn unol â’r weithdrefn a nodir yn rheoliad 20.

Y weithdrefn ar gyfer symud aelodau o’u swyddi gan y pwyllgor

20.(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â symud aelod o’i swydd yn unol â rheoliad 19.

(2) Ni fydd penderfyniad i symud aelod o’i swydd a gaiff ei basio mewn cyfarfod o’r pwyllgor yn cael effaith—

(a)     oni bai, mewn perthynas â symud aelod a enwebwyd gan gorff enwebu o’i swydd, cyn bod y pwyllgor yn penderfynu symud yr aelod o’i swydd, fod clerc y pwyllgor yn rhoi’r rhesymau a ddarparwyd gan y corff enwebu (fel y bo’n briodol) dros symud yr aelod o’i swydd, a bod yr aelod hwnnw y cynigir ei fod yn cael ei symud o’i swydd yn cael cyfle i wneud datganiad er mwyn ymateb i hynny;

(b)     oni bai, mewn perthynas â symud aelod cymunedol, noddwr-aelod neu riant-aelod o’i swydd, cyn bod y pwyllgor yn penderfynu symud yr aelod o’i swydd, fod yr aelod neu’r aelodau sy’n cynnig bod yr aelod yn cael ei symud yn datgan, yn y cyfarfod hwnnw, eu rhesymau dros wneud hynny a bod yr aelod y cynigir ei fod yn cael ei symud o’i swydd yn cael cyfle i wneud datganiad er mwyn ymateb i hynny;

(c)     oni bai ei fod wedi ei gadarnhau drwy benderfyniad a gaiff ei basio mewn ail gyfarfod o’r pwyllgor a gynhelir heb fod yn llai na phedwar diwrnod ar ddeg ar ôl y cyfarfod cyntaf; a

(d)     oni bai bod y mater o symud aelod o’i swydd wedi ei bennu fel eitem o fusnes ar yr agenda ar gyfer pob un o’r cyfarfodydd hynny.

RHAN 6

GWEITHDREFNAU’R PWYLLGORAU

Cymhwyso Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005

21. Mae Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005 yn gymwys mewn perthynas ag unedau fel y maent yn gymwys mewn perthynas ag ysgolion a gynhelir i’r graddau a chyda’r addasiadau a ragnodir yn Atodlen 3 (ac yn y Rheoliadau hynny fel y’u cymhwyswyd felly mae gan unrhyw ymadrodd sydd wedi ei ddiffinio yn rheoliad 2 yr un ystyr ag yn y rheoliad hwnnw).

RHAN 7

DIRPRWYO SWYDDOGAETHAU I BWYLLGORAU A’R CWRICWLWM

Dirprwyo swyddogaethau

22.(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i awdurdod ddirprwyo’r swyddogaethau a grybwyllir ym mharagraff (2) sy’n ymwneud ag uned i’r pwyllgor, ynghyd ag unrhyw bwerau sydd gan yr awdurdod sy’n angenrheidiol er mwyn cyflawni’r swyddogaethau hynny.

(2) Dyma’r swyddogaethau—

(a)     cynnal yr uned;

(b)     swyddogaethau’r awdurdod o dan baragraff 6(3) o Atodlen 1 i Ddeddf Addysg 1996 (cwynion sy’n ymwneud â’r cwricwlwm);

(c)     swyddogaethau’r awdurdod o dan adran 88 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006([3]) (cyfrifoldeb dros ddisgyblu); a

(d)     mewn cysylltiad ag athrawon a gyflogir gan yr awdurdod i weithio yn yr uned, swyddogaethau’r awdurdod o dan Reoliadau Gwerthuso Athrawon Ysgol (Cymru) 2011([4]).

(3) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i’r canlynol—

(a)     swyddogaethau’r awdurdod o dan—

                           (i)    adran 4 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013([5]) (pŵer i ymyrryd),

                         (ii)    rheoliadau a wneir o dan adran 31 o Ddeddf Addysg 2002([6]) (rheoli mangreoedd ysgol), a

                       (iii)    adran 29(5) o Ddeddf Addysg 2002 (cyfarwyddyd gan awdurdod mewn perthynas ag iechyd a diogelwch);

(b)     unrhyw bŵer i benodi neu ddiswyddo athrawon a staff nad ydynt yn addysgu yn yr uned, neu eu hatal dros dro;

(c)     unrhyw bŵer i wario unrhyw swm o arian a neilltuwyd gan yr awdurdod at ddibenion yr uned.


Cwricwlwm

23. Rhaid i’r awdurdod, y pwyllgor a’r athro neu’r athrawes â gofal am uned (gan weithio ar y cyd) wneud, ac adolygu o bryd i’w gilydd, ddatganiad polisi ysgrifenedig mewn perthynas â’r cwricwlwm ar gyfer yr uned.

 

 

Huw Lewis

 

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

 

7 Hydref 2014


ATODLEN 1

                   Rheoliadau 9, 10 a 13

Ethol a phenodi aelodau

1. Caiff yr awdurdod ddirprwyo i’r athro neu’r athrawes â gofal am uned unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau o dan yr Atodlen hon.

Ethol a phenodi rhiant-aelodau

2. Yn ddarostyngedig i baragraffau 1 a 3 i 6, rhaid i’r awdurdod wneud yr holl drefniadau angenrheidiol ar gyfer ethol rhiant-aelodau.

3. Nid yw’r ddyletswydd a osodir gan baragraff 2 yn cynnwys pŵer i osod unrhyw ofynion o ran yr isafswm o bleidleisiau y mae’n ofynnol iddynt gael eu bwrw er mwyn i aelod gael ei ethol.

4. Rhaid cynnal pleidlais gyfrinachol ar gyfer unrhyw etholiad a ymleddir.

5.(1) Rhaid i’r trefniadau a wneir o dan baragraff 2 ddarparu bod pob person sydd â’r hawl i bleidleisio yn cael y cyfle i wneud hynny drwy’r post.

(2) At ddibenion is-baragraff (1), mae “post” (“post”) yn cynnwys danfon drwy law.

(3) Caiff y trefniadau a wneir o dan baragraff 2 ddarparu bod pob person sydd â’r hawl i bleidleisio yn cael y cyfle i wneud hynny drwy ddull electronig.

6. Pan fo swydd rhiant-aelod yn dod yn wag, rhaid i’r awdurdod gymryd unrhyw gamau sy’n rhesymol ymarferol er mwyn sicrhau bod pob person y mae’n gwybod ei fod yn rhiant i ddisgybl cofrestredig yn yr uned neu yn un o’r unedau—

(a)     yn cael ei hysbysu am y swydd wag a’i bod yn ofynnol i’r swydd honno gael ei llenwi drwy etholiad;

(b)     yn cael ei hysbysu bod hawl ganddo i sefyll fel ymgeisydd ac i bleidleisio yn yr etholiad; ac

(c)     yn cael y cyfle i wneud hynny.

7. Rhaid i nifer y rhiant-aelodau sy’n ofynnol gynnwys rhiant-aelodau a benodir gan y pwyllgor os oes un neu ragor o swyddi rhiant-aelodau gwag a bod nifer y rhieni sy’n sefyll i’w hethol yn llai na nifer y swyddi gwag.

8.(1) Dim ond y rhai a ganlyn y caiff y pwyllgor eu penodi’n rhiant-aelod—

(a)     rhiant i ddisgybl cofrestredig yn yr uned;

(b)     rhiant i gyn-ddisgybl cofrestredig yn yr uned;

(c)     rhiant i ddisgybl cofrestredig mewn uned arall, neu mewn ysgol a gynhelir yn ardal yr awdurdod;

(d)     rhiant i blentyn sydd o oedran ysgol gorfodol; neu

(e)     unrhyw riant.

(2) Ni chaiff y pwyllgor ond penodi person y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(b), (c), (d) neu (e) os nad oes unrhyw berson arall i’w benodi o is-baragraff (1)(a).

Ethol staff-aelodau

9. Yn ddarostyngedig i baragraffau 1, 10 ac 11, rhaid i’r awdurdod wneud yr holl drefniadau angenrheidiol ar gyfer ethol staff-aelodau.

10. O ran y ddyletswydd a osodir gan baragraff 9—

(a)     mae’n cynnwys y pŵer i wneud darpariaeth o ran dyddiadau cymhwyso; ond

(b)     nid yw’n cynnwys y pŵer i osod unrhyw ofynion o ran yr isafswm o bleidleisiau y mae’n ofynnol iddynt gael eu bwrw er mwyn i ymgeisydd gael ei ethol.

11. Rhaid cynnal pleidlais gyfrinachol ar gyfer unrhyw etholiad a ymleddir.

Penodi noddwr-aelodau

12. Yn yr Atodlen hon, ystyr “noddwr” (“sponsor”) mewn perthynas ag uned yw—

(a)     person sy’n rhoi neu sydd wedi rhoi cymorth ariannol sylweddol (sydd at y dibenion hyn yn cynnwys buddion mewn nwyddau neu wasanaethau) i’r uned ac eithrio yn unol â rhwymedigaeth statudol; neu

(b)     unrhyw berson arall (nad yw wedi ei gynrychioli fel arall ar y pwyllgor) sy’n darparu neu sydd wedi darparu gwasanaethau sylweddol i’r uned.

13. Pan fo gan yr uned un neu ragor o noddwyr, caiff yr offeryn llywodraethu ddarparu ar gyfer penodi pa nifer bynnag o noddwr-aelodau, na fydd yn fwy na dau, a enwebir yn unol â pharagraff 14.

14. Rhaid ceisio enwebiadau ar gyfer penodiadau o’r


fath gan y noddwr neu (yn ôl y digwydd) gan un neu ragor o’r noddwyr.


                    ATODLEN 2       Rheoliad 16

Cymhwyso ac anghymhwyso

Cyffredinol

1. Mae person wedi ei anghymhwyso rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd fel aelod ar unrhyw adeg pan fo’r person hwnnw yn ddisgybl cofrestredig mewn uned.

2. Nid yw unrhyw berson yn gymwys i fod yn aelod oni bai bod y person hwnnw yn 18 oed neu’n hŷn ar ddyddiad ethol neu benodi’r person hwnnw.

3. Ac eithrio fel y darperir fel arall yn y Rheoliadau hyn, nid yw’r ffaith bod person yn gymwys i’w ethol neu ei benodi yn aelod o gategori penodol yn  anghymhwyso’r person hwnnw rhag cael ei ethol neu ei benodi neu rhag parhau i fod yn aelod o unrhyw gategori arall.

Anhwylder meddwl

4. Mae person wedi ei anghymhwyso rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd fel aelod ar unrhyw adeg pan fo’r person hwnnw yn agored i gael ei gadw’n gaeth o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983([7]) neu o dan unrhyw ailddeddfiad neu addasiad statudol o’r Ddeddf honno sydd mewn grym o bryd i’w gilydd.

Methiant i fod yn bresennol mewn cyfarfodydd

5.(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw aelod nad yw’n aelod yn rhinwedd swydd y person hwnnw.

(2) Mae aelod, sydd, heb gydsyniad y pwyllgor, wedi methu â bod yn bresennol yng nghyfarfodydd y pwyllgor am gyfnod di-dor o chwe mis sy’n dechrau ar ddyddiad y cyfarfod cyntaf o’r fath y methodd y person hwnnw â bod yn bresennol ynddo, pan fydd y cyfnod hwnnw yn dod i ben, wedi ei anghymhwyso rhag parhau i ddal swydd fel aelod o’r pwyllgor hwnnw.

(3) Pan fo aelod wedi anfon ei ymddiheuriadau i glerc y pwyllgor cyn cyfarfod nad yw’r person yn bwriadu bod yn bresennol ynddo, rhaid i gofnodion y cyfarfod hwnnw gofnodi a oedd y pwyllgor yn cydsynio i absenoldeb yr aelod ai peidio, a rhaid anfon copi o’r cofnodion at yr aelod o dan sylw yn ei breswylfa arferol.

(4) Nid yw aelod sydd wedi ei anghymhwyso o dan is-baragraff (2) yn gymwys i’w ethol, i’w enwebu neu i’w benodi yn aelod o unrhyw gategori yn yr uned honno yn ystod y deuddeng mis yn union ar ôl ei anghymhwyso o dan is-baragraff (2).

Methdaliad

6. Mae person wedi ei anghymhwyso rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd fel aelod—

(a)     os yw wedi ei ddyfarnu’n fethdalwr neu os yw ei ystad wedi ei secwestru ac (yn y naill achos neu’r llall) os nad yw’r person hwnnw wedi ei ryddhau ac os nad yw’r gorchymyn methdalu wedi ei ddiddymu neu ei ddadwneud neu fod cyfnod moratoriwm o dan orchymyn rhyddhau o ddyled yn gymwys mewn perthynas â’r person hwnnw; neu

(b)     os yw wedi gwneud compownd neu drefniant gyda’i gredydwyr, neu wedi rhoi gweithred ymddiriedaeth ar eu cyfer, ac nad yw wedi ei ryddhau mewn cysylltiad â hynny.

Anghymhwyso cyfarwyddwyr cwmnïau

7. Mae person wedi ei anghymhwyso rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd fel aelod ar unrhyw adeg pan fo’r person hwnnw yn ddarostyngedig i—

(a)     gorchymyn anghymhwyso neu ymgymeriad anghymhwyso o dan Ddeddf Anghymhwyso Cyfarwyddwyr Cwmnïau 1986([8]);

(b)     gorchymyn anghymhwyso o dan Ran 2 o Orchymyn Cwmnïau (Gogledd Iwerddon) 1989([9]);

(c)     ymgymeriad anghymhwyso a dderbyniwyd o dan Orchymyn Anghymhwyso Cyfarwyddwyr Cwmnïau (Gogledd Iwerddon) 2002([10]); neu

(d)     gorchymyn a wnaed o dan adran 429(2)(b) o Ddeddf Ansolfedd 1986([11]) (methu â thalu o dan orchymyn gweinyddu llys sirol).

Anghymhwyso ymddiriedolwyr elusennau

8. Mae person wedi ei anghymhwyso rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd fel aelod—

(a)     os yw wedi ei symud o swydd ymddiriedolwr elusen drwy orchymyn a wnaed gan y Comisiynwyr Elusennau neu’r Uchel Lys ar sail unrhyw gamymddwyn neu gamreoli wrth weinyddu’r elusen yr oedd y person hwnnw yn gyfrifol amdano neu’n ymwybodol ohono, neu y cyfrannodd y person hwnnw iddo neu a hwyluswyd gan y person hwnnw drwy ei ymddygiad; neu

(b)     os yw’r person hwnnw wedi ei symud o’i swydd, o dan adran 34 o Ddeddf Elusennau a Buddsoddi gan Ymddiriedolwyr (Yr Alban) 2005([12]) (pwerau’r Llys Sesiwn i ymdrin â rheoli elusennau), rhag ymwneud â rheoli neu reolaeth ar unrhyw gorff.

Personau y gwaherddir eu cyflogi neu y cyfyngir ar eu cyflogi

9. Mae person wedi ei anghymhwyso rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd fel aelod ar unrhyw adeg pan fo’r person hwnnw—

(a)     wedi ei gynnwys ar y rhestr o athrawon a’r rhai sy’n gweithio gyda phlant neu bobl ifanc y gwaherddir eu cyflogi neu y cyfyngir ar eu cyflogi o dan adran 1 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999([13]);

(b)     yn ddarostyngedig i gyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 142 o Ddeddf Addysg 2002([14]);

(c)     wedi ei anghymhwyso rhag gweithio gyda phlant o dan adrannau 28, 29 neu 29A o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llysoedd 2000([15]);

(d)     wedi ei anghymhwyso rhag cofrestru o dan Ran XA o Ddeddf Plant 1989([16]) ar gyfer gwarchod plant neu ddarparu gofal dydd;

(e)     wedi ei anghymhwyso rhag cofrestru o dan Ran 3 o Ddeddf Gofal Plant 2006([17]);


(f)      wedi ei wahardd o weithgaredd a reoleiddir sy’n ymwneud â phlant yn unol ag adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006([18]);

(g)     yn ddarostyngedig i gyfarwyddyd gan yr awdurdod priodol o dan adran 167A o Ddeddf Addysg 2002([19]);

(h)     wedi ei anghymhwyso, yn rhinwedd gorchymyn a wneir o dan adran 470 neu adran 471 o Ddeddf Addysg 1996, rhag bod yn berchennog unrhyw ysgol annibynnol neu rhag bod yn athro neu’n athrawes, neu’n gyflogai arall mewn unrhyw ysgol; neu

(i)      wedi ei anghymhwyso rhag cofrestru o dan Ran 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010.

Collfarnau troseddol

10.(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (5), mae person wedi ei anghymhwyso rhag dal swydd, neu barhau i ddal swydd, fel aelod pan fo unrhyw un neu ragor o is-baragraffau (2) i (4) neu (6) yn gymwys iddo.

(2) Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i berson os yw—

(a)     o fewn y cyfnod o bum mlynedd a ddaw i ben ar y dyddiad yn union cyn y dyddiad y byddai penodiad neu etholiad y person hwnnw yn aelod fel arall wedi cymryd effaith neu, yn ôl y digwydd, y dyddiad y byddai’r person hwnnw fel arall wedi dod yn aelod yn rhinwedd ei swydd; neu

(b)     ers ei benodi neu ei ethol yn aelod neu, yn ôl y digwydd, ers iddo ddod yn aelod yn rhinwedd ei swydd;

wedi ei gollfarnu yn y Deyrnas Unedig neu yn rhywle arall o unrhyw drosedd ac wedi ei ddedfrydu i garchar (pa un a yw’n ddedfryd ohiriedig ai peidio) am gyfnod nad yw’n llai na thri mis heb yr opsiwn o ddirwy.

(3) Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i berson os cafodd y person hwnnw, o fewn y cyfnod o 20 mlynedd a ddaw i ben ar y dyddiad yn union cyn y dyddiad y byddai penodiad neu etholiad y person hwnnw yn aelod fel arall wedi cymryd effaith neu, yn ôl y digwydd, y dyddiad y byddai’r person hwnnw fel arall wedi dod yn aelod yn rhinwedd ei swydd, ei gollfarnu fel y disgrifiwyd uchod o unrhyw drosedd a’i ddedfrydu i garchar am gyfnod nad yw’n llai na dwy flynedd a hanner.

(4) Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i berson os yw ar unrhyw adeg wedi ei gollfarnu fel y disgrifiwyd uchod o unrhyw drosedd ac wedi ei ddedfrydu i garchar am gyfnod nad yw’n llai na phum mlynedd.

(5) At ddibenion is-baragraffau (2) i (4), rhaid diystyru unrhyw gollfarn gan lys y tu allan i’r Deyrnas Unedig, neu gerbron llys o’r fath, am drosedd na fyddai, pe bai’r ffeithiau a oedd wedi arwain at y drosedd wedi digwydd yn unrhyw ran o’r Deyrnas Unedig, wedi ei hystyried yn drosedd yn y rhan honno o’r Deyrnas Unedig yn ôl y gyfraith mewn grym ar yr adeg yr oedd y ffeithiau a oedd wedi arwain at y drosedd wedi digwydd.

(6) Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i berson os yw—

(a)     o fewn y cyfnod o bum mlynedd a ddaw i ben ar y dyddiad yn union cyn y dyddiad y byddai penodiad neu etholiad y person hwnnw yn aelod fel arall wedi cymryd effaith neu, yn ôl y digwydd, y dyddiad y byddai’r person hwnnw fel arall wedi dod yn aelod yn rhinwedd ei swydd; neu

(b)     ers ei benodi neu ei ethol yn aelod neu, yn ôl y digwydd, ers iddo ddod yn aelod yn rhinwedd ei swydd;

wedi ei gollfarnu o dan adran 547 o Ddeddf Addysg 1996([20]) (niwsans neu aflonyddwch ar fangreoedd ysgol) neu o dan adran 85A o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992([21]) (niwsans ac aflonyddwch ar fangreoedd addysgol) o drosedd ac wedi ei ddedfrydu i dalu dirwy.

Gwrthod gwneud cais am dystysgrif cofnodion troseddol

11. Mae person wedi ei anghymhwyso rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd fel aelod ar unrhyw adeg pan fo’r person hwnnw yn gwrthod cais gan glerc y pwyllgor i wneud cais o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997([22]) am dystysgrif cofnodion troseddol.

Hysbysu’r clerc

12. Pan fo person—

(a)     yn rhinwedd unrhyw un o baragraffau 6 i 11 wedi ei anghymhwyso rhag dal swydd, neu barhau i ddal swydd, fel aelod o bwyllgor; a

(b)     yn aelod neu y bwriedir iddo ddod yn aelod;

rhaid iddo hysbysu clerc y pwyllgor am y ffaith honno.

                    ATODLEN 3       Rheoliad 21

Cymhwyso, gydag addasiadau, Ran 7, 8, 9 a 10 o Reoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005

1. Ym mha le bynnag y maent yn ymddangos yn Rhannau 7, 8, 9 a 10 o Reoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005—

(a)     yn lle cyfeiriadau at y “corff llywodraethu” rhodder cyfeiriadau at y “pwyllgor”;

(b)     yn lle cyfeiriadau at “llywodraethwr” rhodder cyfeiriadau at “aelod”;

(c)     yn lle cyfeiriadau at yr “ysgol” rhodder cyfeiriadau at yr “uned neu, yn ôl y digwydd, y grŵp o unedau”; a

(d)     yn lle cyfeiriadau at “pwyllgor” rhodder cyfeiriadau at “is-bwyllgor y pwyllgor”.

Penodi swyddogion, eu swyddogaethau a’u diswyddo

2. Yn rheoliad 39—

(a)     ym mharagraff (1) hepgorer “ac i adran 18 o Ddeddf 1998 (pŵer Cynulliad Cenedlaethol Cymru i benodi llywodraethwyr ychwanegol)”; a

(b)     ym mharagraff (6) hepgorer “ac i adran 18 o Ddeddf 1998”.

3. Yn rheoliad 39(5)(c), hepgorer “neu os cymerir ei le gan gadeirydd a enwebwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 18 o Ddeddf 1998”.

4. Yn rheoliad 41(1), hepgorer “onis enwebwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 18 o Ddeddf 1998”.

5. Yn rheoliad 42—

(a)     ym mharagraff (1) hepgorer “â’r corff llywodraethu neu”;

(b)     ym mharagraff (2) yn lle “Rhaid i’r corff llywodraethu” rhodder “Rhaid i’r awdurdod”;

(c)     ym mharagraff (3) yn lle is-baragraff (c) rhodder—

(c) yr athro neu’r athrawes â gofal am yr uned neu, yn ôl y digwydd, am unrhyw uned yn y grŵp o unedau.”;

(d)     ym mharagraff (5) yn lle “Caiff y corff llywodraethu” rhodder “Caiff yr awdurdod”; ac

(e)     hepgorer paragraff (6).

6. Yn rheoliad 43(1) yn lle is-baragraff (d) rhodder—

(d) rhoi a derbyn hysbysiadau yn unol â rheoliadau 15 (hysbysu ynghylch penodiadau) a 18 (ymddiswyddo) o Reoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Pwyllgorau Rheoli etc.) (Cymru) 2014 a pharagraff 12 o Atodlen 2 (hysbysu’r clerc) iddynt a rheoliadau 39(4) a 45(4) o’r Rheoliadau hyn;”.

Cyfarfodydd a thrafodion cyrff llywodraethu

7. Yn rheoliad 44 yn lle paragraff (b) rhodder—

(b) yr athro neu’r athrawes â gofal am yr uned neu, yn ôl y digwydd, am bob uned yn y grŵp o unedau, pa un a yw’r person hwnnw yn aelod ai peidio;”.

8. Hepgorer rheoliad 44A.

9. Yn rheoliad 45—

(a)     ym mharagraff (4) yn lle is-baragraff (b) rhodder—

(b) yr athro neu’r athrawes â gofal am yr uned neu, yn ôl y digwydd, am bob uned yn y grŵp o unedau, pa un a yw’r person hwnnw yn aelod ai peidio;”; a

(b)     ym mharagraff (6) hepgorer is-baragraff (ch).

10. Yn rheoliad 46—

(a)     ym mharagraff (1) hepgorer “unrhyw ddisgybl-lywodraethwyr cyswllt”;

(b)     ym mharagraff (2) hepgorer “(ac eithrio unrhyw ddisgybl-lywodraethwyr)”; ac

(c)     hepgorer paragraffau (2A) a (4).

11. Yn rheoliad 49—

(a)     ym mharagraff (1)(b) yn lle “Atodlen 5” rhodder “Atodlen 2 i Reoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Pwyllgorau Rheoli etc.) (Cymru) 2014”;

(b)     ym mharagraff (1)(c) hepgorer “neu gymeriad crefyddol”; ac

(c)     ym mharagraff (6) yn lle “baragraff 5 o Atodlen 5” rhodder “baragraff 5 o Atodlen 2 i Reoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Pwyllgorau Rheoli etc.) (Cymru) 2014”.

12. Yn rheoliad 50(1)—

(a)     hepgorer y geiriau o “rheoliad 3(2)” i “2000”; a

(b)     yn lle is-baragraff (c) rhodder—

(c) yr athro neu’r athrawes â gofal am yr uned neu, yn ôl y digwydd, am unrhyw un neu ragor o’r unedau yn y grŵp o unedau, pa un a yw’r person hwnnw yn aelod ai peidio.”

13. Yn lle rheoliad 51 rhodder—

(1) Ni chaiff y pwyllgor ddirprwyo o dan reoliad 50(1) ei swyddogaethau o dan—

(a)   rheoliadau 39 a 41 (ethol a diswyddo cadeirydd ac is-gadeirydd);

(b)   rheoliad 42 (penodi a diswyddo clerc y corff llywodraethu);

(c)   rheoliad 49 (atal llywodraethwyr);

(ch) rheoliad 50 (dirprwyo swyddogaethau);

(d)   rheoliad 54 (sefydlu pwyllgorau); a

(dd) rheoliadau 7 (adolygu’r offeryn llywodraethu), 9 (rhiant-aelodau), 12 (aelodau cymunedol), 13 (noddwr-aelodau), 19 (symud aelodau o’u swyddi) ac 20 (y weithdrefn ar gyfer symud aelodau o’u swyddi gan y pwyllgor) o Reoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Pwyllgorau Rheoli etc.) (Cymru) 2014.

(2) Ni chaiff y pwyllgor ddirprwyo i unigolyn o dan reoliad 50(1)—

(a)   ei swyddogaethau yn adran 88 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006; neu

(b)   y swyddogaethau y mae rhaid eu dirprwyo i’r pwyllgor a bennir yn rheoliad 56.”

14. Yn rheoliad 52, yn lle paragraff (1)(b) rhodder—


(b) yr athro neu’r athrawes â gofal am yr uned neu, yn ôl y digwydd, am unrhyw un neu ragor o’r unedau yn y grŵp o unedau, pa un a yw’r person hwnnw yn aelod ai peidio;”.

Pwyllgorau cyrff llywodraethu

15. Hepgorer rheoliadau 55 a 57.

16. Yn rheoliad 58—

(a)     yn lle paragraff (1) rhodder—

(1) Rhaid i’r awdurdod benodi clerc i bob is-bwyllgor, ond ni chaniateir i’r clerc hwnnw fod yn athro neu’n athrawes â gofal am yr uned neu, yn ôl y digwydd, am unrhyw uned yn y grŵp o unedau.”;

(b)     hepgorer paragraff (2); ac

(c)     ym mharagraff (4) yn lle “y corff llywodraethu” rhodder “yr awdurdod” a hepgorer “o’i eiddo”.

17. Yn rheoliad 59—

(a)     yn lle paragraff (1)(b), rhodder—

(b) yr athro neu’r athrawes â gofal am yr uned neu, yn ôl y digwydd, am bob uned yn y grŵp o unedau, pa un a yw’r person hwnnw yn aelod o’r is-bwyllgor ai peidio;” a

(b)     hepgorer paragraff (3).

18. Yn rheoliad 63 ym mharagraff (1)(a) yn lle “y pennaeth (boed yn llywodraethwr neu beidio)” rhodder “yr athro neu’r athrawes â gofal am yr uned neu, yn ôl y digwydd, am bob uned yn y grŵp o unedau, pa un a yw’r person hwnnw yn aelod ai peidio”.

 

 

 

 



([1])           1996 p. 56; mewnosodwyd paragraff 15 o Atodlen 1 gan adran 48 o Ddeddf Addysg 1997 (p. 44), ac fe'i diwygiwyd gan baragraff 184(c) o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31) a chan O.S. 2001/2237. Gweler adran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996 i gael y diffiniadau o “prescribed” a “regulations”. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol yn Atodlen 1 i Ddeddf Addysg 1996 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac yna i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

([2])           O.S. 2005/2914 (Cy. 211) fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau Cynghorau Ysgol (Cymru) 2005 (O.S. 2005/3200 (Cy. 236)); a chan Reoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006 (O.S. 2006/873 (Cy. 81)) a chan Reoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/944 (Cy. 80)), a chan Reoliadau Addysg (Diwygiadau Amrywiol ynghylch Diogelu Plant) (Cymru) 2009 (O.S. 2009/2544 (Cy. 206)), a chan Orchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) (Is-ddeddfwriaeth) (Cymru) 2010 (O.S. 2010/1142 (Cy. 101)), a chan Reoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Gofynion Hyfforddi ar gyfer Llywodraethwyr) (Cymru) 2013 (O.S. 2013/2124 (Cy. 207)).

.

([3])           2006 p. 40.

([4])           O.S. 2011/2940 (Cy. 316).

([5])           2013 dccc 1.

([6])           2002 p. 32.

([7])           1983 p. 20.

([8])           1986 p. 46.

([9])           Rhif 2404 (G.I. 18).

([10])         Rhif 3150 (G.I. 4).

([11])         1986 p. 45.

([12])         2005 dsa 10.

([13])         1999 p. 14; ac fel y'i harbedwyd gan erthygl 5 o Orchymyn Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (Cychwyn Rhif 6, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2009 (O.S. 2009/2611).

([14])         Wedi ei diddymu at ddibenion penodol gan Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 p. 47 (gweler adran 63).

([15])         2000 p. 43; mae adrannau 28, 29 a 29A wedi eu diddymu at ddibenion penodol gan adran 63 o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006.

([16])         1989 p. 41. Wedi ei diddymu gan adran 73 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (mccc1) ac nid yw eto mewn grym.

([17])         2006 p. 21.

([18])         2006 p. 47.

([19])         Mewnosodwyd adran 167A gan adran 169 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p. 40), ond nid yw eto mewn grym.

([20])         Fel y'i diwygiwyd gan baragraff 163 o Atodlen 30 i Ddeddf 1998 a chan adran 206 o Ddeddf Addysg 2002 ac Atodlen 20 iddi a chan adran 6 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p. 40) ac Atodlen 1 iddi.

([21])         1992 p. 13; mewnosodwyd gan adran 206 o Ddeddf Addysg 2002 ac Atodlen 20 iddi.

([22])         1997 (p. 50); mewnosodwyd gan adran 163 o Ddeddf Troseddu Cyfundrefnol Difrifol a'r Heddlu 2005 (p. 15).  Mewnosodwyd is-adrannau (2A) a (12), a diwygiwyd is-adran (6), gan Orchymyn Deddf yr Heddlu 1997 (Cofnodion Troseddol) (Cyfathrebu Electronig) 2009 (O.S. 2009/203).  Rhoddwyd paragraff (a) o is-adran (10) yn lle paragraffau (a) a (b) fel y'u deddfwyd yn wreiddiol gan baragraff 149 o Atodlen 16 i Ddeddf y Lluoedd Arfog 2006 (p. 52).